Jean ElizabethHUGHESChwefror 12 2024 Yn dawel, yng nghwmni ei merch, yn Ysbyty Gwynedd, Bangor a gynt o 2 Bryn Gro, Cwm y Glo, yn 90 mlwydd oed.
Priod annwyl y diweddar Maldwyn Hughes; mam gariadus Alwyn a Sian; a chwaer a chwaer yng nghyfraith hoff i Nance a Cemlyn.
Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor, ddydd Iau, Mawrth 7 am 12 o'r gloch.
Blodau'r teulu yn unig ond os dymunir derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Cymdeithas Alzheimer.
Ymholiadau E W Pritchard, 62 Stryd Fawr, Llanberis 01286 870202.
Keep me informed of updates